Ganed ym 1879 yn y Westgate Inn ar Frances Street, chwaraeodd ‘Wax’ mewn 58 o gemau ar gyfer Clwb Rygbi Caerdydd rhwng 1898-1902 cyn mynd i ogledd Lloegr ym mis Mehefin, 1902, i ymuno â Halifax. Enillodd y Gwpan Her ddwywaith, ym 1903 a 1904, a helpodd ei glwb hefyd i ennill teitl yr Adran Gyntaf yn nhymor 1902-03. Chwaraeodd hefyd yn yr ochr a gollodd yn rownd derfynol Cwpan Swydd Efrog 1905.