Ganed Johnny yng nghanol Tiger Bay yn Stryd Sophia ym 1934, aeth i Ysgol South Church Street lle’r oedd yn yr un tîm â Billy Boston a’i gefnder, Joe Erskine. Chwaraeodd gyda’r ddau yn y CIACS cyn ymuno â Halifax ym mis Rhagfyr, 1954. Sgoriodd 291 o geisiau mewn 398 o gemau dros dri thymor. Helpodd Halifax i guro Seland Newydd ym 1955 gyda chais o 50 llath. Chwaraeodd yn Rownd Derfynol Pencampwriaeth 1956 yn erbyn Hull a chwaraeodd hefyd yn rownd derfynol y Gwpan Her i St Helens yn Wembley. Yn nhymor 1956-57 sgoriodd drichais yn erbyn Billy Boston mewn buddugoliaeth o 25-9 yn erbyn Wigan a sgoriodd 38 o geisiau yn 20 gêm gyntaf y tymor hwnnw. Cafodd anaf ddrwg yn Nadolig y tymor hwnnw, a gostiodd ei le ar daith 1958 i Awstralia, ac ni chwaraeodd am flwyddyn. Ym 1963-64 helpodd Halifax i ennill Cwpan Her Swydd Efrog a Phencampwriaeth y Dwyrain ac yna Pencampwriaeth Rygbi’r Gynghrair y tymor nesaf. Chwaraeodd mewn un rownd derfynol arall yn y Bencampwriaeth ym 1966. Prin fu gemau rhyngwladol Cymru yn ystod ei gyfnod yn Halifax, felly unwaith yn unig y chwaraeodd dros ei wlad. Bu farw yn Butetown ym mis Mehefin, 2017, ar ôl dychwelyd i fyw i ddinas ei eni. Ef o hyd sy’n dal record clwb Halifax o 48 o geisiau mewn 45 o gemau ym 1956-57 a 290 o geisiau yn ei yrfa.