Yn fab i fewnfudwyr o Rwsia a ymgartrefodd yn Tiger Bay, ganed Gus ar 23 Mawrth, 1911, yn Sophia Street ac aeth i Ysgol South Church Street. Rhedodd ei rieni dŷ preswyl, cyn symud i’r Barri i redeg caffi pan oedd Gus yn 11 oed. Daeth yn un o’r chwaraewyr rygbi gorau erioed o Gymru, gan gapteinio’r tîm 15 bob ochr mewn gemau rhyngwladol yn ystod y Rhyfel, er iddo fod yn seren rygbi’r gynghrair. Mae ystadegau ei yrfa rygbi’r gynghrair yn syfrdanol ac mae’n aelod o Neuaddau Enwogion Rygbi’r Gynghrair a Workington ac mae ar ‘Gofrestr Anrhydeddau’ Neuadd Chwaraeon Cymru. Mae ganddo stryd wedi’i henwi ar ei ôl yn Salford a Workington ac mae ar gerflun Rygbi’r Gynghrair yn Stadiwm Wembley. Rhwng 1929 a 1954 sgoriodd 4,052 o bwyntiau mewn 873 o gemau dros Salford a Workington Town. Chwaraeodd hefyd mewn 36 o gemau prawf i Brydain Fawr, gan chwarae mewn pum cyfres fuddugol Cyfres y Lludw, ac enillodd 18 o gapiau dros Gymru. Enillodd bedair Pencampwriaeth Rygbi’r Gynghrair, aeth i Wembley ar gyfer rownd derfynol y Gwpan Her dair gwaith, enillodd bum teitl Cynghrair Swydd Gaerhirfryn a thair medal enillydd Cwpan Swydd Gaerhirfryn. Roedd yn gapten tîm Workington Town a enillodd y Gwpan Her yn 41 oed.