Ganed Dennis ar 24 Medi, 1944, yn Sgwâr Loudoun ac aeth i Ysgol South Church Street. Bu’n gwasanaethu yn y Môr-filwyr Brenhinol ac yn chwarae rygbi’r undeb ar gyfer Gwasanaethau Devenport, Dyfnaint a’r Llynges Frenhinol yn y Bencampwriaeth Rhyng-Wasanaethau yn Twickenham. Ymunodd â Widnes, gan sgorio 94 o geisiau mewn 173 o gemau rhwng 1965 a 1975. Enillodd gap i Gymru yn Rygbi’r Gynghrair ym 1969.