Fe’i ganed yn Sgwâr Loudoun ym mis Rhagfyr, 1943, ac aeth i Ysgol South Church Street a graddiodd o Ieuenctid Caerdydd i Halifax ym 1961, gan ymuno yn 17 oed. Gyda Johnny Freeman, helpodd Halifax i ennill y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 57 mlynedd ym 1964 a daeth yn gapten y clwb ym 1967 a 1968. Enillodd y cyntaf o’i gapiau i Gymru a Phrydain Fawr yn nhymor 1968-69, pan symudodd i Salford am ffi o £15,000, a oedd yn record byd ar y pryd. Chwaraeodd mewn wyth rownd derfynol yn Salford, gan ennill Cwpan Swydd Gaerhirfryn ym 1972 a Tllws Floodlit y BBC ym 1975. Enillodd Salford Bencampwriaeth y Gynghrair hefyd ym 1974 a 1976. Daeth yn hyfforddwr yn Salford cyn mynd am un tymor olaf i Hull Kingston Rovers, lle enillodd yr Uwch Gynghrair a chyrraedd rownd derfynol Cwpan Swydd Efrog. Ar y llwyfan rhyngwladol, sgoriodd gais yn ei gêm gyntaf i Gymru, gan ennill seren y gêm, mewn buddugoliaeth dros y Saeson ym 1968. Enillodd 16 o gapiau i Gymru, gan gynnwys Cwpan y Byd 1975, a gwnaeth 14 ymddangosiad ar gyfer Prydain Fawr, a chafodd ei gynnwys yng ngharfan fuddugol Cwpan y Byd 1972. Sgoriodd 177 o geisiau mewn 738 o gemau. Mae wedi ei gynnwys yn Oriel Enwogion Rygbi’r Gynghrair Halifax.
Postiwyd ar September 29, 2020