Wedi’i eni i deulu rygbi o fewnfudwyr Eidalaidd ym mis Gorffennaf, 1894, bu Joe yn byw yn Adam Street a Sandon Street, yn Adamsdown. Daeth yn boblogaidd iawn ym myd rygbi’r gynghrair fel asgellwr a sgoriodd nifer o geisiau, gan chwarae i Rochdale ac yna Oldham. Chwaraeodd gyda’i frawd, Louis, yng Nghwpan Her 1922 a enillwyd gan Rochdale yn erbyn Hull. Yn Oldham chwaraeodd 150 o gemau a chwaraeodd mewn tair rownd derfynol Cwpan Her olynol – 1924, 1925 a 1926 – gan ennill ym 1925. Enillodd ei gap un a’r unig gap RG dros Gymru yn erbyn Lloegr ym 1923. Yn ei bedwar tymor cyntaf yn Oldham ef oedd y sgoriwr ceisiau mwyaf gyda 30 ym 1923-4, 27 ym 1924-5, 23 ym 1925-6 a 23 eto ym 1926-7. Collodd rownd derfynol Cwpan 1928, ond mae wedi’i gynnwys yn Neuadd Enwogion Rygbi’r Gynghrair Oldham.