Ganed Jim yn Elaine Street, Sblot, ar 2 Rhagfyr, 1903, ac roedd ei dad yn gigydd o Iwerddon. Aeth i Ysgol St Alban a chwarae rygbi’r undeb dros Gaerdydd yn 16 oed. Erbyn iddo fod yn 17 oed roedd wedi chwarae i’r Barbariaid ac wedi chwarae mewn Prawf Cymreig. Ymunodd â Wigan ac enillodd y cyntaf o’i 26 o gapiau rygbi’r gynghrair, record Gymreig ar y pryd, wyth diwrnod ar ôl ei ben-blwydd yn 18 oed. Gwnaeth ei ymddangosiad olaf yn 36 oed ac arweiniodd ei wlad 18 gwaith. Roedd ei gêm gyntaf i Wigan yn erbyn Widnes ym mis Awst, 1921, ac erbyn iddo roi’r gorau i chwarae ym mis Chwefror, 1946, roedd wedi sgorio 6,001 o bwyntiau mewn 922 o gemau. Enillodd bedair Pencampwriaeth Rygbi’r Gynghrair, y Gwpan Her ddwywaith a thair Cwpan Swydd Gaerhirfryn. Chwaraeodd 25 o gemau prawf ar gyfer Prydain Fawr, tair dros Lloegr a chwech dros dîm y Gwledydd Eraill. Yn ei 60 ymddangosiad rhyngwladol sgoriodd 329 o bwyntiau. Bu’n hyfforddi Wigan rhwng 1946 a 1952, gan eu harwain at ddwy fuddugoliaeth Cwpan Her yn Wembley, chwe Chwpan Swydd Gaerhirfryn yn olynol a thair rownd derfynol Pencampwriaeth Cynghrair y Gogledd. Symudodd i St Helens ar ddechrau tymor 1952-53 a’u llywio ar unwaith i deitl Pencampwriaeth y Gynghrair ym 1953 ac i’w llwyddiant Wembley cyntaf flwyddyn yn ddiweddarach. Mae yn Neuadd Enwogion Rygbi’r Gynghrair, Wigan a St Helen’s, ac mae ar ‘Gofrestr Anrhydedd’ Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru.