Ganed yn Hannah Street, Butetown, yn 1951, symudodd ei deulu ar draws Caerdydd i’r Tyllgoed. Dysgodd chwarae rygbi yn Illtyd Sant a chwaraeodd dros Ysgolion Caerdydd a’r CIACS cyn arwyddo ar gyfer Halifax yn 18 oed. Cafodd ei hun yn chwarae ochr yn ochr ag eraill o Tiger Bay, Terry Michael a Johnny Freeman, yn Halifax. Enillodd y ddau gyntaf o’i 13 cap dros Gymru tra’r oedd yn Halifax a’r gweddill yn Wigan. Chwaraeodd hefyd mewn tair Gêm Brawf dros Brydain Fawr ac aeth ar daith 1974 i Awstralia a Seland Newydd, gan chwarae yn y fuddugoliaeth 20-0 dros y Kiwis yn Auckland. Enillodd Gwpan Swydd Gaerhirfryn gyda Wigan ac fe’i hystyriwyd yn un o’r mewnwyr gorau yn y byd yn y naill god neu’r llall.