Ganed Clive yn Sblot ar 9 Ebrill, 1943, a daeth yn gapten du cyntaf unrhyw dîm ym Mhrydain Fawr ac arweiniodd ei wlad at deitl Cwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair ym 1972, gan sgorio cais ym mhob un o bedair gêm ei ochr yn y twrnament, gan gynnwys cais o un pen y cae i’r llall yn erbyn Awstralia a gyfrannodd at gêm gyfartal o 10-10 i gipio’r tlws. Ymunodd â’r Fyddin o’r ysgol a chafodd brawf rygbi’r gynghrair yn ei arddegau hwyr. Ymunodd â Hull yn y pen draw ac aeth ymlaen i chwarae 352 o gemau i’r clwb, gan sgorio 250 o geisiau. Yna newidiodd i Hull Kingston Rovers ac ychwanegodd 118 o geisiau i’w record mewn 213 o gemau. Enillodd y Gwpan Her â’r ddau glwb. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf llawn i Brydain Fawr ym 1966-67 gan drwy sgorio’r cais buddugol yn erbyn Ffrainc yn y funud olaf. Chwaraeodd hefyd yng nghyfres Cwpan y Byd 1968 yn Awstralia, gan gapteinio Cymru yng Nghwpan y Byd 1975. Enillodd 17 o gapiau dros Brydain Fawr. Ym 1974, cafodd ei anrhydeddu gydag MBE ac mae ar ‘Gofrestr Anrhydedd’ Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru. Enwyd y brif ffordd i mewn i Hull yn ‘Clive Sullivan Way’ er anrhydedd iddo.