Ganed ar 6 Awst, 1934 yn Angelina Street, aeth i Ysgol South Church Street a chwaraeodd dros Ysgolion Caerdydd, Clybiau Bechgyn Cymru, Ieuenctid Cymru, y CIACS a Chastell-nedd yn rygbi’r undeb. Arwyddodd i Wigan RL tra’n dal i fod yn ei arddegau am £3,000. Roedd yn ddêl dda i Wigan wrth i Billy fynd ymlaen i sgorio 478 o geisiau mewn 487 o gemau ar eu cyfer, gan eu helpu i ennill chwe rownd derfynol y Gwpan Her a gyrhaeddon nhw yn ei 15 tymor yn y clwb. Sgoriodd ddwywaith hefyd yn eu buddugoliaeth derfynol ym Mhencampwriaeth 1960 i ennill teitl cyntaf Wigan mewn wyth mlynedd, a chafodd ddwy fedal enillydd Cynghrair Swydd Gaerhirfryn ac un gwpan Swydd Gaerhirfryn. Enillodd Gwpan y Byd gyda Phrydain Fawr a chwaraeodd 31 o weithiau i’r Llewod, gan ddod yn ymwelydd du cyntaf ag Awstralia. Mae yn Neuadd Enwogion Rygbi’r Gynghrair a Wigan, ar ‘Gofrestr Anrhydedd’ Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru ac fe’i gwnaed yn MBE am ei wasanaethau i chwaraeon. Mae hefyd gerflun iddo yn Wigan ac mae wedi’i gynnwys ar gerflun Rygbi’r Gynghrair yn Stadiwm Wembley.